Amdanom Ni | Gwybodaeth am Goed Tharddiad Lleol | Gwybodaeth Prynu | Gwybodaeth Tyfu | Cyfeirlyfr Tyfwyr | Cysylltu Ni

Chwilio'r Safle

Yr Adran Yma

Plannu Coed Brodorol er Bioamrywiaeth

Cysylltau Defnyddiol

Pethau i'w Lawrlwytho sy'n Ymwneud Choed Brodorol


Rowan Flowers
© 2006 Glasu

Newyddion




Darllen Mwy ...

1
Darllen Mwy ...

Plannu Coed Brodorol er Bioamrywiaeth

Beth yw coeden frodorol?
 
Rhywogaethau coed yw'r rhains sydd wedi cytrefu tirwedd Cymru drwy brosesau naturiol ar yr oes ia diwethaf, oddeutu 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn hanesyddol, byddai coed a oedd wedi addasu'n dda i'r pridd a'r amodau hinsoddol yn llwyddo ac yn ffynnu; a byddai'r rheiny nad oeddent wedi addasu yn methu. Dros sawl cenhedlaeth, mae'r rhywogaethau llwyddiannus wedi addasu i'r amodau lleol, gan arwain at gyfansoddiad genetig coetir rydyn ni'n dweud sydd â tharddiad lleol.
 
Y rhywogaethau y derbynnir yn eang eu bod yn wirioneddol frodorol yw rhywogaethau llydanddail, colldail yn bennaf, gan gynnwys y fedwen, y dderwen, yr onnen, yr helygen, yn ogystal â rhywogaethau bythwyrdd fel y gelynnen, yr ywen, y binwydden wyllt a'r ferywen.

Mae cydnabyddiaeth bellach i brif fanteision coed a llwyni brodorol dros rywogaethau amrodorol (megis conwydd egsotig):
Planting Trees for Bio Diversity 
 
Planting Trees for Bio Diversity - Cardinal Beetle
  • Cynnal treftadaeth y dirwedd leol a gwerth cadwraeth.
  • Cefnogi amrywiaeth ehangach o blanhigion ac anifeiliaid na rhywogaethau sydd wedi'u cyflwyno (ee mae'r Dderwen, yr Helygen a'r Fedwen oll yn cefnogi dros 200 o rywogaethau pryfed brodorol, o'u cymharu â 19 sy'n bresennol ar y Llarwydden).
  • Mae rhywogaethau brodorol yn fwy tebygol o ffynnu na'r rhan fwyaf o rywogaethau sydd wedi'u cyflwyno, yn enwedig mewn amodau mwy heriol.
  • Cynhyrchu manteision economaidd mwy cynaliadwy, boed hynny o bren caled o ansawdd neu fel lliaws o gynhyrchion coed coedlan a chynhyrchion y goedwig nad ydyn nhw'n bren.
Gweithgaredd Dynol

Mae dyn wedi bod yn ychwanegu at gyfanswm genynnol coetiroedd brodorol ers canrifoedd, boed yn anfwriadol neu'n fwriadol, trwy blannu. Mae llawer o rywogaethau amrodorol (ee y fasarnen, conwydd egsotig) yn ogystal â mathau amrodorol o rywogaethau brodorol (ee bedw, derw, pinwydd egsotig) wedi'u cyflwyno. Mae rhai o'r rhain sydd wedi'u cyflwyno wedi llwyddo i frodori (y gastanwydden felys, y ffawydden) ac ystyrir nhw'n aml yn frodorol bellach.
 
Mae hyd yn oed llawer o'r coed wirioneddol frodorol sydd wedi'u plannu yng Nghymru dros y blynyddoedd wedi'u tyfu o hadau sydd wedi'u mewnforio, yn enwedig o ganol a dwyrain Ewrop lle mae ardaloedd coetir mawr yn dal i fodoli, a lle mae'r costau llafur am eu casglu lawer yn is. Nid yw'r coed yma o reidrwydd wedi addasu'n dda i'r amodau amgylcheddol gwahanol iawn a geir yng Nghymru, ac efallai nad ydyn nhw'n ffynhonnell hadau dymunol.
 
Mae trawsffrwythloni rhwng planhigion brodorol 'â tharddiad lleol' a rhywogaethau wedi'u mewnforio, wedi cynhyrchu amrywiaeth o genoteipiau sy'n adlewyrchu addasiadau genynnau lleol ac estron. O'r herwydd, cyfran eithaf bach o gyfanswm genynnol coetiroedd yw coed â tharddiad lleol bellach.
 
Er mwyn lleihau'r risg o wanedu'r cyfanswm genynnol yma ymhellach, mae'n fuddiol casglu hadau coed o safleoedd y mae ffynhonnell ddibynadwy wedi nodi eu bod wedi bod â tharddiad lleol ers tro, er enghraifft hadau o goetir lled-naturiol hynafol dynodedig.
 
Beth yw ystyr tarddiad heddiw?
Mae tarddiad coeden yn disgrifio'r had y mae wedi tyfu ohono, a lle casglwyd yr had. Fel canllaw, mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi rhannu'r DU yn barthau hadau eang ar sail parthau rhanbarthol, amgylcheddol.
 
Pa mor lleol yw lleol?
Nid mater syml o gasglu hadau o'r rhiant-goed mwyaf daearyddol leol yw tarddiad lleol; mae priodoldeb ecolegol ffynhonnell yr had i safle plannu'r coed lawer yn bwysicach. Rhaid bod yn arbennig o ofalus i gydweddu uchder tir, gwydnwch rhag rhew, math o bridd a draeniad.
  
Pam Plannu Coed a Llwyni Brodorol â Tharddiad Lleol?

  • Mae cyfansoddiad genetig coed a llwyni brodorol â tharddiad lleol yn sicrhau eu bod wedi addasu'n well i'r amodau lleol a geir yng Nghymru.
  • Mae plannu coed sydd wedi addasu'n well yn sicrhau gwell cyfraddau goroesi, gan osgoi costau ailblannu.
  • Gall nodweddion genetig pwysig fod yn arwyddocaol wahanol mewn coed a dyfir o hadau sydd wedi'u mewnforio, megis amser blaguro, blodeuo a ffrwytho, gan darfu ar y cydbwysedd brau rhwng y coed brodorol a'r bywyd gwyllt maen nhw'n ei gynnal.
  • Mae ffynonellu coed a hadau yn lleol yn cwtogi ar gostau cludiant, yn lleihau llygredd ac yn helpu i ddiogelu cyflogaeth leol.
  • Mae'r rhan fwyaf o asiantaethau sy'n ymwneud â phlannu coed, gan gynnwys Coed Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Coed Cadw, Flora Locale, Cyfarwyddiaeth Briffyrdd LlCC. ac Awdurdodau Unedol bellach yn argymell defnyddio coed â tharddiad lleol.
Plannu ynteu atgynhyrchu naturiol
 
Cofiwch nad yw plannu coed a chreu cynhefin yn lle diogelu safleoedd gwerth uchel sydd eisoes yn bodoli o ran bywyd gwyllt yn ddewisiadau derbyniol. Ystyriwch y posibilrwydd y gallai coetir atgynhyrchu yn naturiol yn y fan a'r lle cyn dechrau plannu, hyd yn oed â choed brodorol â tharddiad lleol.
 
Cadw bioamrywiaeth

Mae miloedd o flynyddoedd o addasu wedi arwain at goed brodorol, â tharddiad lleol, yn addasu'n dda i amodau lleol. Gellid colli'r nodweddion genetig yma am byth trwy eu croes-beillio â defnydd sydd wedi'i fewnforio. Mae lleihau bioamrywiaeth a gwanedu'r cyfanswm genynnol yn lleihau gallu tymor hir ecosystemau i addasu a ffynnu. O'r herwydd, mae'n bwysig sicrhau bod hadau â tharddiad lleol yn cael eu casglu o amrwyiaeth o ffynonellau lleol amlwg eu geneteg.
 
Datblygu gwledig ac amrywiaeth ffynonellau hadau

Mae'n flaenoriaeth datblygu meithrinfeydd coed lleol, ar raddfa fach yng Nghymru, er mwyn cefnogi economïau lleol ac amrywio ffynonellau hadau coed:
 
Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o goetiroedd brodorol dan berchnogaeth breifat, ac maen nhw wedi'u gwasgaru'n eang dros Gymru wledig. Yn y gorffennol, mae nifer o feithrinfeydd sydd eisoes yn bodoli, a masnachwyr hadau arbenigol, wedi casglu nadau coed brodorol â tharddiad Cymreig, ond ni fu'n economaidd i feithrinfeydd mwy, sydd yn aml y tu allan i Gymru, gasglu o unrhyw beth ond sampl fach o'r safleoedd posib yma. Daeth y casgliadau yma o nifer fach o ffynonellau adnabyddus iawn, gyda'u cyfyngiadau cysylltiedig ar yr hadau â tharddiad lleol a gasglwyd:
  • Mae nifer fach o safleoedd yn cyfyngu ar ansawdd yr had sydd ar gael ac, yn bwysicach na nyn, ar ei amrywiaeth genetig.
  • Yn y gorffennol, ansawdd y pren oedd yn cael ei gynhyrchu oedd yr unig faen prawf wrth ddewis had o'r nifer fach yma o stondinau hadau cofrestredig. Nid dyma'r ffordd orau o weithredu o reidrwydd ar gyfer cynnal bioamrywiaeth.
  • Yn yr un modd, mae yna berygl y bydd canolbwyntio'n gyfan gwbl ar blannu coed â tharddiad lleol er cadwraeth yn golygu y bydd pwysigrwydd ansawdd pren ar gyfer tarddiad hadau'n cael ei anwybyddu'n llwyr.
Mae angen ystyried casglu hadau a phlannu coed yng nghyd-destun cynaliadwyedd tymor hir coetiroedd, nid yn unig yn nhermau ecolegol, ond hefyd yn nhermau'r rheolaeth a'r gyflogaeth maen nhw'n eu cefnogi, gan mai dyma yw'r prif reswm yn aml iawn y mae coetiroedd brodorol wedi goroesi, yn enwedig dan berchnogaeth breifat.
 
Newid yn yr hinsawdd a choed brodorol
Wrth ragweld yr hinsoddau yng Nghymru yn 2050 awgrymir y byddan nhw'n derbyg i'w hyn sydd i'w gael yn ne-orllewin Lloegr/gogledd-orllewin Ffrainc ar hyn o bryd (senarios effaith newid isel/uchel yn yr hinsawdd). Yn fwy penodol, “mae'r rhagfynegiadau mwyaf diweddar o Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU yn awgrymu cynnydd mewn tymheredd, newidiadau i'r glawiad, cyflymder y gwynt, gorchudd cwmwl a phwysedd anwedd,”1 ac mae yna amrywiaeth o oblygiadau ynghlwm wrth bob un o'r rhain o ran goroesiad coed ac o ran tyfu coed, gan gynnwys:
  • Oherwydd tymereddau a lefelau CO2 uwch mae yna botensial ar gyfer cynnydd cyffredinol yng nghyfraddau tyfu coed.
  • Yn yr un modd, mae yna botensial arwyddocaol i gael mwy o golledion oherwydd sychder, difrod stormydd ac achosion o blâu ac afiechydon.
  • Gan y rhagwelir effaith waethaf sychder a thymereddau uwch ar gyfer de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr, rhagwelir hefyd y bydd ardaloedd mwyaf cynhyrchiol rhai rhywogaethau coed brodorol yn symud yn fras i gyfeiriad y gogledd-orllewin ar draws y DU.
  • I Gymru, mae'n bur debyg mai eithaf niwtral fydd effeithiau cyffredinol newid yn yr hinsawdd, er y gallai amgylchedd mwy ffafriol arwain at newid yng nghyfansoddiad rhywogaethau a ystyrir yn frodorol, ef enghraifft caniatáu gwell cyfraddau goroesi a thyfu yn achos y gastanwydden felys a'r ffawydden, ac is-rywogaethau pendyclaidd a chroesryw yn disodli'r dderwen ddigoes yn gynyddol.
 
Newid yn yr hinsawdd a tharddiad lleol
Yn hanesyddol, mae lleihau bioamrywiaeth yn lleihau gallu tymor hir ecosystemau i addasu i newid a ffynnu, sy'n golygu eu bod yn fwy tueddol o ddiraddio a chwympo.
 
Felly, mae'n rhaid cadw amrywiaeth genetig os ydym am osgoi dirywiad yn y dyfodol mewn coetiroedd brodorol ac effaith amgylcheddol ehangach, er enghraifft drwy
  • gynyddu amrediad ffynonellau hadau â tharddiad lleol.
  • sicrhau bod mwy o goed brodorol â tharddiad lleol ar gael a'u bod yn cael eu defnyddio.
 
Yn ddiweddar, cafwyd awgrymiadau y dylid plannu coed â tharddiad amrodorol yn barod ar gyfer yr hinsoddau a ragwelir yn y dyfodol yn y DU, ond:
  • Ni ddylid meddwl bod hyn yn gyfiawnhad dros roi'r gorau i ddefnyddio coed â tharddiad brodorol fel dewis gwell na choed sydd wedi'u mewnforio.
  • Nid yw ychwaith yn gyfiawnhad dros yr arfer blaenorol a pharhaus o ffynonellu hadau amhriodol, wedi'u mewnforio dim ond oherwydd bod mwy ohonynt, eu bod yn costio'n llai neu eu bod yn bodloni meini prawf ansawdd pren.
  • Efallai bod peth cyfiawnhad dros blannu rhywfaint o goed amrodorol o ardaloedd sydd â hinsoddau tebyg nawr i'r rhai a ragwelir ar gyfer y DU.
  • Fodd bynnag, mae cydbwysedd manteision ac anfanteision newid yn yr hinsawdd i goedwigaeth yn amhendant fel achos dros ddefnyddio coed amrodorol.
 
Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i gadw'r bioamrywiaeth brodorol sy'n bodoli, a chaniatáu i hyn ymateb yn naturiol i newid yn yr hinsawdd trwy flaenoriaethu atgynhyrchu naturiol yn lle plannu coed.
 
 
 
© 2017 Tree Nurseries of Powys | Testun | Native Trees English VersionEnglish
Amdanom Ni | Rhesymau Dros y Prosiect | Nawdd a Gwariant | Partneriaid a Llywodraethiant | | Cysylltu Ni | Gwybodaeth i Dyfwyr | Hyfforddiant a Chyngor | Plannu Coed Brodorol er Bioamrywiaeth | Cysylltau Defnyddiol | Pethau i'w Lawrlwytho sy'n Ymwneud Choed Brodorol | Pam Plannu Coed Brodorol | Tyfwyr Coed Brodorol ym Mhowys | Siop Coed Brodorol