Amdanom Ni | Gwybodaeth am Goed Tharddiad Lleol | Gwybodaeth Prynu | Gwybodaeth Tyfu | Cyfeirlyfr Tyfwyr | Cysylltu Ni

Chwilio'r Safle


Ash Keys
© 2006 Glasu

Newyddion




Darllen Mwy ...

1
Darllen Mwy ...

Glasbrint ar gyfer rheoli ffermydd yn gynaliadwy
Thursday 25 May 2006

Aled Morris in Polytunnel - Blueprint in sustainable farm management

Mae gan ffermwr o Bowys lasbrint ar gyfer rheoli ei fferm yn gynaliadwy ar sail cylch bywyd coed, gan dyfu ei goed ei hun o hadau sydd wedi'u casglu yn lleol mewn compost sydd wedi'i ddatblygu o welltach pwdr ei anifeiliaid, â'r gwelltach hwnnw yn deillio o sglodion coed o'i wrychoedd.

Meithrinfa coed â tharddiad lleol y ffermwr Aled Morris yw'r pennod diweddaraf yn stori lwyddiant grŵp o 10 o deuluoedd ffermio yn yr un gymdogaeth ger Llanfair Caereinion ym Mhowys.


Gan weithio fel cydweithfa, mae grŵp ffermwyr Pont Bren, dros y 14 mlynedd diwethaf, wedi achub y blaen trwy fabwysiadu systemau ffermio llai dwys, mwy cynaliadwy. Mae Glasu, rhaglen datblygu gwledig LEADER+ Powys, wedi bod yn cefnogi'r prosiect tymor hir yma.

Meddai Lee Price, rheolwr prosiect gyda Glasu: "Yn eithaf buan, fe sylweddolodd ffermwyr Pont Bren fod eu gwrychoedd a'u coetiroedd, yn ogystal â darparu lloches ar gyfer da byw, yn cynnig llawer o adnoddau nad oedden nhw'n defnyddio digon arnyn nhw, gan gynnwys hadau coed brodorol a sglodion coed o'r tocion. Trwy ddatblygu'r adnoddau gwerth isel yma ar y cyd, roedd ganddyn nhw botensial i greu buddion i'r fferm gyfan, gan ragori'n fawr ar swm eu gwerthoedd ar eu pennau eu hunain."

Gyda help Coed Cymru, llwyddodd grŵp Pont Bren i ddatblygu gwelltach i'w hanifeiliaid o sglodion coed wedi'u gwneud o docion gwrychoedd. Gan fod hyn yn ddewis rhatach na gwellt, mae defnyddio sglodion coed yn arbed oddeutu £5000 y flwyddyn i bob fferm, ac yn cwtogi ar lygredd sy'n gysylltiedig â chludiant.

Yn fwy diweddar, bu Glasu a Coed Cymru yn cydweithio i ychwanegu gwerth at y gwelltach pwdr, gan ei droi'n gompost ar gyfer busnesau garddio.

O ganlyniad, mae Aled Morris bellach yn gallu defnyddio compost sydd wedi'i gynhyrchu ar ei fferm ei hun i dyfu hadau coed brodorol sydd wedi'u cynaeafu o goetiroedd a gwrychoedd y fferm. Mae'n plannu eginblanhigion y coed â tharddiad lleol mewn gwrychoedd a lleiniau cysgodi ar y fferm, gan arbed hyd at £2000-3000 y flwyddyn ar gost prynu stoc plannu, yn ogystal â chwtogi ar gostau cludiant a gollyngiadau carbon deuocsid cysylltiedig.

Roedd datblygu meithrinfa goed yn un o flaenoriaethau cynnar strategaeth Pont Bren ar gyfer system ffermio cynaliadwy. Fodd bynnag, oherwydd bod llawer o'r tir uwchben 250m, roedd y gyfradd goroesi yn wael ar gyfer eginblanhigion coed oedd wedi'u tyfu o hadau oedd wedi'u casglu o ardaloedd gwahanol iawn (naill ai iseldir y DU neu gyfandir Ewrop). Roedd y wers honno'n pwysleisio pwysigrwydd defnyddio coed â tharddiad lleol.

“Mae tystiolaeth o amrywiaeth eang o safleoedd ucheldir, heriol yn cadarnhau ei bod yn hanfodol plannu coed sydd wedi'u tyfu o hadau sydd wedi'u casglu'n lleol, gan sicrhau eu bod wedi addasu yn well ac yn fwy tebygol o ffynnu” meddai David Jenkins, Coed Cymru.

 “Roedd yn anodd cael gafael ar goed â tharddiad lleol yn 2002, a dygodd y diffyg cyflenwad sylw at y cyfle i arallgyfeirio i gynhyrchu mewn meithrinfa goed,” meddai Aled, sy'n bwriadu, wrth i'r feithrinfa ddatblygu, cyflenwi eginblanhigion i ffermwyr eraill yn y grŵp ac, yn y tymor hir, eu gwerthu i farchnad leol ehangach.

Mae llawer o asiantaethau'n dod fwyfwy i gydnabod manteision defnyddio coed â tharddiad lleol, ac mae llawer o'r rhain bellach yn nodi bod yn rhaid eu defnyddio os byddan nhw'n rhoi grant tuag at blannu coed. Mae prosiect Meithrinfeydd Coed Powys Glasu yn ymdrechu i gyflawni'r galw yng Nghanolbarth Cymru. Gyda chefnogaeth y Comisiwn Coedwigaeth, Coed Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Powys, mae'r prosiect yn dwyn sylw at y cyfle i dyfu coed â tharddiad lleol trwy grantiau, cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer marchnata a chydweithredu.

Meddai cydlynydd prosiect Glasu, Cliff Webb: "Mae yna farchnad fawr a sefydlog sy'n tyfu ar gyfer coed â tharddiad lleol. Mae Aled wedi dangos bod ffermwyr mewn sefyllfa ddelfrydol i ateb y galw yma, boed trwy gyflenwi eu hanghenion plannu eu hunain neu, wrth iddyn nhw ddod yn fwy hyderus ac arbenigol, trwy ehangu i gyflenwi ffermwyr eraill yn fasnachol."

Ar ben y buddion economaidd i ffermwyr Pont Bren, mae newidiadau i ddefnydd tir, fel cyfradd stocio is a phlannu coed, wedi dwyn buddion amgylcheddol ehangach yn eu sgîl. Mae ymchwil Canolfan Ecoleg a Hydroleg wedi dangos effeithiau ar leihau risg llifogydd, sefydlogi llif dŵr yn yr haf a lleihau llygredd, oll â chanlyniadau pellgyrhaeddol i lawr yr afon yn nalgylch Afon Hafren.

Felly, p'un a yw'r prosiect yn cael ei archwilio ar raddfa fferm ynteu ar sail ehangach dalgylch afon, mae'n brosiect sy'n wirioneddol gynaliadwy, gyda manteision economaidd ac amgylcheddol sydd â chysylltiad anorfod rhyngddyn nhw.

I gael mwy o wybodaeth am Brosiect Meithrinfa Coed â Tharddiad Lleol Glasu, cysylltwch â Cliff Webb ar 01982 552224, e-bost cliffw@powys.gov.uk neu ewch i http://www.glasu.org/.

I gael mwy o wybodaeth am Brosiect Pont Bren neu Coed Cymru, cysylltwch â David Jenkins ar 01686 650777, e-bost davidj@coedcymru.org.uk neu ewch i http://www.coedcymru.org.uk/index.html

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Sharon Chilcott, ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus i Glasu, ffôn: 01989 770199 (ffôn symudol 07990 765351)
Cliff Webb neu Lee Price, Glasu, ffôn: 01982 552224
David Jenkins, Coed Cymru, ffôn: 01686 650777
Aled Morris, ffôn: 01938 810345 (yn gynnar yn y bore, amser cinio a min nos) 

Yn y llun:
Y ffermwr Aled Morris gyda rhai o'i eginblanhigion coed â tharddiad lleol.  

Nodyn i'r Golygyddion:

Y Rhaglen LEADER+ ym Mhowys yw Glasu.  Un o'i themâu yw ychwanegu gwerth at gynnyrch naturiol lleol ac mae'n gweithio gyda phobl sydd â syniadau am brosiectau ar lefel llawr gwlad.  

Rhaglen y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei hariannu i hybu datblygiad ardaloedd gwledig yw LEADER+. Ei nod yw annog a helpu ardaloedd gwledig i feddwl am botensial tymor hir eu hardal. Mae'n ceisio annog gweithredu strategaethau integredig, gwreiddiol o ansawdd uchel ar gyfer datblygu cynaliadwy ar sail dulliau arloesol o drin datblygiad gwledig.

Mae rhaglen LEADER+ yn derbyn arian Ewropeaidd trwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sef rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.



News Archive in Welsh


(Wednesday 28 May 2008)


(Thursday 30 November 2006)

Ymweliad Ymchwil ar gyfer Meithrinfeydd Coed Powys
(Tuesday 06 June 2006)

Glasbrint ar gyfer rheoli ffermydd yn gynaliadwy
(Thursday 25 May 2006)

Lansio'r Wefan
(Wednesday 10 May 2006)

© 2017 Tree Nurseries of Powys | Testun | Native Trees English VersionEnglish
Amdanom Ni | Rhesymau Dros y Prosiect | Nawdd a Gwariant | Partneriaid a Llywodraethiant | | Cysylltu Ni | Gwybodaeth i Dyfwyr | Hyfforddiant a Chyngor | Plannu Coed Brodorol er Bioamrywiaeth | Cysylltau Defnyddiol | Pethau i'w Lawrlwytho sy'n Ymwneud Choed Brodorol | Pam Plannu Coed Brodorol | Tyfwyr Coed Brodorol ym Mhowys | Siop Coed Brodorol